{ko i ganmol yr haf}
1 Tydi'r haf tad yr rhyfig
2 tadwys ced browys coed brig
3 [435] Teg wdwart veistr tew goedalld
4 twr pawb wyd towr pob alld
5 tydi a bair air wryd
6 didwn benn dadeni byd
7 ag y sydd berydd barabl
8 tyddyn pob lleseuyn pabl
9 ag eli twf ddwdwf ddadl
10 ag enneint coedydd i gynadl
11 da i gwyr myn Duw a gerir
12 dy law cadeiriaw coed ir
13 hoff annian bedwar ban byd
14 vthr i tyf oth rad hefyd
15 adar a chnwd dayar deg
16 a heidiau yn ehedeg
17 bragwair gweirgloddiae brigwydr
18 beuduyae a heidiae hydr
19 tadmaeth wyd prophwyd prifyrdd
20 teml dayarlwyth garlwyth gwyrdd
21 impiwr wyd im pur adail
22 impiad gwiw ddeiliad gwe ddail
23 a drwg yw yn dragywydd
24 nesed Awst i nos ai dydd
25 am wybod or method maith
26 euraid dymor yr aut ymaith
27 maneg ym haf nid cam hynn
28 myfi a vedr d'ymofyn
29 pa gyfair neu pa gyvoeth
30 pa dir y ddai er pedr ddoeth
31 taw vowlvardd tau ovalvydr
32 taw vost veistrawl hvdawl hydr
33 tynghedven sy'm rym ramant
34 tywysawg wyf tes a gant
35 dyvod trimis i dyfu
36 defnyddiae llavuriae llu
37 a phen ddarffo do a dail
38 dyfu a gwau y gwiail
39 i ochel awel ayaf
40 i Annwfn oddwfn i ddaf
41 aed bendithion beirddion byd
42 ai can hawddamawr cennyd
43 [436] yn iach vrenin yr hinon
44 yn iach yn llywiawdr a'n ion
45 yn iach y cogeu ieuainc
46 yn iach hin vehevin vainc
47 yn iach yr haul yn vwchel
48 ar wybrlen dew bolwen bel
49 dëyrn byddin dioer ni byddy
50 yn gyfuwch vryn wybrluwch vry
51 oni ddel dirgel degardd
52 eilwaith yr haf ai lethr hardd
D: ap Glm'